Croeso i gorwelion newydd!

Rydym yn wasanaeth atgyfeirio disgyblion portffolio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy’n darparu addysg ar gyfer pobl ifanc oed uwchradd nad ydynt yn gallu mynychu ysgol y brif ffrwd.  Rydym yn gweithredu ar draws tri safle, sef; Stwdio pen-y-cae, Stiwdio Hafod a Haulfan, sy’n arbenigo mewn cefnogi anghenion disgyblion unigol yn ymwneud ag ymddygiad ac iechyd meddwl.

Rydym yn cydnabod bod ysgolion prif ffrwd yn darparu’r addysg orau i blant a phobl ifanc yn Wrecsam.  Fodd bynnag, bydd rhai plant a phobl ifanc yn wynebu anawsterau gwirioneddol yn eu bywydau sydd wedi creu rhwystrau sylweddol i ddysgu.  Ein huchelgais yw ail-adeiladu hunanhyder a hunan-barch, er mwyn i blant a phobl ifanc ail-ymgysylltu’n llwyddiannus â’u dysgu.  Rydym yn cydnabod ac yn dathlu pontio llwyddiannus i leoliadau ysgol brif ffrwd neu ysgolion arbennig.  Rydym yn targedu cymorth yn arbennig yng nghyfnod allweddol 4 at drosglwyddo’n llwyddiannus i addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Yn olaf, rydym yn falch o’n hagwedd gyfeillgar a chroesawgar at yr holl blant, pobl ifanc a theuluoedd.  Pa bynnag amgylchiadau heriol yr ydych yn canfod eich hun ynddynt, yr ydym yn gwarantu dechreuad newydd a chyfle gwych i bawb.

Darren Lee
Prifteachermwy

Newyddion

Darllenwch ein newyddion diweddaraf

Calendr

Gweld a thanysgrifio i'n calendr byw

Tanysgrifio

Derbyn rhybudd newyddion drwy ebost

Uchafbwyntiau Diweddar

Mwy o newyddion..