Yng Ngorwelion Newydd, rydym yn cydnabod fod nifer o bobl ifanc yn teimlo fod yr ysgol brif ffrwd yn llethol a dim ots pa ymddygiad neu anawsterau sydd ganddynt, rydym yn rhoi sylw cadarnhaol parhaus – mae pob diwrnod yn ddiwrnod newydd.

Yn dilyn cytundeb ar leoliad addysgol llawn amser, estynnwn groeso cynnes i bob rhiant, gofalwr a phobl ifanc i gyfarfod derbyniadau. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i gwrdd â staff, edrych o gwmpas y cyfleusterau a chael atebion i gwestiynau.

Pan fod pobl ifanc yn cyrraedd Gorwelion Newydd, mae’r tîm yn cynnal cyfres o brofion diagnostig i greu darlun o’r rhesymau dros eu trafferthion yn yr ysgol.  Mae hyn yn galluogi datblygiad Cynllun sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ar gyfer yr holl bobl ifanc, a fydd yn cefnogi eu Cynllun Addysg Unigol.

Caiff gwersi eu dysgu mewn grwpiau bach sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr unigol.  Mae pwyslais penodol ar ddatblygu dysgu gweithredol ac amryw o weithgareddau wedi eu lleoli o fewn yr ystafell ddosbarth a’r gymuned ehangach.  Ein nod yw darparu ystod eang ac amrywiaeth o weithgareddau cyfoethogi gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a chelfyddydau creadigol. Gallai hyn gynnwys comisiynu sefydliadau preifat a thrydydd sector sydd wedi derbyn sicrwydd ansawdd llawn.

Rydym yn cynnig brecwast iach i bobl ifanc bob bore; mae hyn yn cefnogi ein hymrwymiad i ddewisiadau ffordd o fyw iachach.

Rydym yn falch o’n tîm a’n dull cydweithredol gyda rhieni ac asiantaethau; byddwch yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ar gynnydd personol, cymdeithasol ac addysgol eich plentyn; yn seiliedig ar fentora a phrosesau tracio targedau penodol i safleoedd er mwyn annog a chydnabod presenoldeb ac ymddygiad da.