Gweledigaeth y Cwricwlwm Newydd
Bydd yr holl bobl ifanc yn dilyn cwricwlwm eang a chytbwys, a fydd yn eu paratoi ar gyfer pedwar diben Cwricwlwm Cymru 2022. Nod Gorwelion Newydd yw cefnogi ein plant a’n pobl ifanc i fod yn:
- Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sydd yn barod i ddysgu gydol eu hoes.
- Cyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i fod yn rhan lawn o fywyd a gwaith.
- Dinasyddion egwyddorol, gwybodus am Gymru a’r byd.
- Unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mae nifer o’n plant a’n pobl ifanc sy’n mynychu Gorwelion Newydd wedi methu ar agweddau sylweddol o ddysgu ac mae ganddynt ystod eang o anghenion addysgol arbennig sydd i gyd yn gweithredu fel rhwystrau rhag dysgu. Darperir gwersi a rhaglenni ymyrraeth ar wahân sy’n canolbwyntio ar gynnydd disgyblion gyda’r sgiliau trawsgwricwlaidd o lythrennedd a rhifedd. Caiff sgiliau allweddol yn ymwneud â llythrennedd a rhifedd eu mapio ar draws pob testun fesul hanner tymor.
Sgiliau fframwaith Llythrennedd 2020 – 2021:
- Tymor yr hydref
- Tymor y gwanwyn
- Tymor yr haf
Sgiliau fframwaith Rhifedd 2020 – 2021:
- Tymor yr hydref
- Tymor y gwanwyn
- Tymor yr haf
Dysgu statudol mewn perthynas â sgiliau trawsgwricwlaidd, Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb (RSE) a Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles fydd sail graidd ein cwricwlwm. Rhoddir ystyriaeth i’r holl feysydd dysgu a phrofiad eraill sy’n briodol i anghenion plant a phobl ifanc unigol.
Rydym yn darparu Cynlluniau Addysg Unigol i bob plentyn; wedi eu cefnogi drwy asesiadau sail, sy’n datblygu cynnydd disgyblion yn ymwneud â’u hanghenion addysgol arbennig unigol. Mae Cynlluniau sy’n Canolbwyntio ar y Disgybl yn ganolog i’r broses hon ac mae ‘Pasbortau Disgyblion’ yn sicrhau fod rhain yn ‘fyw’ ac y cyfeirir atynt mewn amgylcheddau dysgu ar ac oddi ar y safle.
Yng Ngorwelion Newydd rydym wedi buddsoddi mewn adnoddau ac yn gweithio tuag at sefydlu gallu digidol trawsgwricwlaidd yn ein pobl ifanc a fydd yn eu hwyluso i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r agweddau sy’n galluogi defnydd hyderus, creadigol a chritigol o dechnolegau a systemau er mwyn bod yn llwyddiannus yng nghymdeithas heddiw.
Nod y gwasanaeth yw cefnogi trawsnewidiad priodol i bob plentyn, boed yn lleoliad ysgol prif ffrwd, ysgol arbennig neu lwybr dysgwr Cyfnod Allweddol 4 gyda Gorwelion Newydd.