Mae ein safonau’n uchel yng Ngorwelion Newydd. Credwn nad oes unrhyw nod y tu hwnt i bosibilrwydd ar gyfer ein pobl ifanc ac rydym yn annog eu dyheadau a’u llwyddiannau drwy ddefnyddio cydnabyddiaeth.
Gall cydnabyddiaeth fod ar sawl ffurf yn amrywio o ganmoliaeth lafar; galwadau ffôn positif adref; cardiau post, llythyrau a thystysgrifau. Defnyddir teithiau a thalebau hefyd i gydnabod cynnydd positif parhaus a chyson.