Cynghorwyr Gyrfaoedd gyda chymwysterau proffesiynol sy’n helpu pobl ifanc i fod yn fwy effeithiol o ran llwyddo i reoli a chynllunio datblygiad eu gyrfa.

Nid yw rheoli gyrfa yn golygu un dewis o ran gyrfa, ond yn hytrach cyfres o drosglwyddiadau gyrfa yn ystod eich hoes. Mae gwella sgiliau rheoli gyrfa unigolion yn eu galluogi i drawsnewid yn fwy esmwyth, mwynhau lefel uwch o fodlonrwydd gyrfa a chwarae rhan mwy gweithredol yn yr economi a’u cymunedau.