Yn ‘Gorwelion Newydd’ rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad cyfartal i adnoddau, darpariaeth a phrofiadau, i bob disgybl. Mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn ein galluogi i oresgyn rhwystrau ychwanegol sy’n atal dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig rhag gyflawni eu llawn botensial.

Bob blwyddyn, mae Gorwelion Newydd yn cydweithio gyda disgyblion, rhieni a staff i drafod syniadau a chynigion ar sut i wario’r grant. Mae casgliad o awgrymiadau’n nodi cynhyrchiad cynllun gwariant, sydd wedi’i danategu gyda gwaith ymchwil o Sefydliad Gwaddol Addysgol. Mae hyn i sicrhau bod gan eitem y gwariant dystiolaeth o effaith mewn perthynas â gwella canlyniadau.

Mewn ymateb i’r ymgynghoriad, cafodd pobl ifanc gyfle i gwblhau Rhaglen Hyfforddi Llysgennad Llesiant Myfyrwyr, ac o ganlyniad, mae 5 disgybl sy’n Llysgenhadon Lles. Mae’r disgyblion hyn yn hyrwyddo iechyd meddwl a lles, ac maent yn gyfrifol am arwain a hyrwyddo lles ledled yr ysgol. Mae disgyblion wedi adrodd fod y Llysgenhadon wedi eu cefnogi i ymsefydlu wrth gyrraedd, ac wedi rhyddhau’r stigma ynghylch siarad am deimladau heriol a’u hannog i siarad.

Fel gwasanaeth, rydym ar siwrnai ar hyn o bryd i fod yn ymwybodol o drawma, adnabod trawma ac ymateb i drawma i sicrhau fod disgyblion diamddiffyn yn cael eu cefnogi’n emosiynol i’w galluogi i gyrraedd eu llawn botensial yn academaidd. Mae GAD 2021/22 wedi cael ei ddefnyddio i ariannu hyfforddiant, pecynnau gwaith fframwaith ac adnoddau ar draws y gwasanaeth, ynghyd â gweithiwr therapiwtig, ac rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith ar ein pobl ifanc wrth symud ymlaen.