Mae 3 prif lwybr i’r cwricwlwm Cyfnod Allweddol 4. Mae rhai o’r cyrsiau achrededig a gyfeiriwyd atynt eisoes yn benodol i bob safle. Rydym wedi ymrwymo i ffurfio cwricwlwm Cyfnod Allweddol 4 i gwrdd ag anghenion dysgwyr unigol.
Llwybr 1: Llwybr TGAU Academaidd.
- Iaith Saesneg
- Llenyddiaeth Saesneg
- Mathemateg
- Rhifedd
- Gwyddoniaeth Gymhwysol
- Bioleg
- Her Sgiliau
- Celf
- Bwyd a Maetheg
- Cwrs Byr Addysg Grefyddol
- Cwrs Cymraeg Lefel Mynediad
Llwybr 2: Llwybr Achrededig Galwedigaethol.
- Cyfres BTEC Addysg Bersonol a Chymdeithasol
- Tystysgrif Effeithiolrwydd Personol ASDAN
- Gwobr Dug Caeredin
- Ymddiriedolaeth y Tywysog
Llwybr 3: Llwybr Dysgu Pwrpasol.
Mae cyfle i bob dysgwr ymgysylltu â chyrsiau cyfoethogi a gyflenwir drwy’r Rhwydwaith 14 – 19.
Hydref 2020:
- Celf
- Arlwyo
- Adeiladu
- Drama
- Peirianneg
- Gwallt a harddwch
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Peirianneg Arddwriaethol ac Amaethyddol
- TGCh
- Astudiaethau ar y Tir
- Mecaneg Moduron
- Ffotograffiaeth
- Gofalu am Anifeiliaid Bach
- Chwaraeon a Hamdden
- Weldio a Saernïo
Mae’r gwasanaeth yn dal i ddatblygu partneriaethau cydweithredol gydag amryw o sefydliadu lleol sydd wedi derbyn sicrwydd ansawdd, rhai ohonynt yn cynnig cyrsiau achrededig cydnabyddedig.
Gall yr Arweinydd Gwasanaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol ddarparu rhagor o wybodaeth.
Mae lleoliadau profiad gwaith yn hygyrch yn amodol ar argaeledd a phroses fetio iechyd a diogelwch sydd wedi derbyn sicrwydd ansawdd.
Mae’r dangosyddion perfformiad gwasanaeth cyfan yn cynnwys mesur llythrennedd a mesur rhifedd wedi’i gapio ar 9. Rhoddir mwy o bwyslais ar gynnydd pobl ifanc unigol yn gymdeithasol, emosiynol ac o ran lles. Mae cynllunio trylwyr yn sicrhau fod pob person ifanc yn cael eu cyfateb gyda chyfleoedd cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant priodol wrth iddynt bontio i leoliadau ôl-16.