Mae Gorwelion Newydd yn gweithio ar y cyd i gefnogi elfennau allweddol o’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.

Sicrhau fod y ddarpariaeth yn cwrdd ag anghenion pobl ifanc i’w hatal rhag ymddieithrio, gan ddefnyddio help partneriaid i gryfhau sgiliau cyflogadwyedd a throsglwyddiadau positif i addysg bellach, hyfforddiant a chyflogaeth.

Mae cyswllt cadarn rhwng Gorwelion Newydd a Chydlynydd Ymgysylltu a Datblygu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.