Mae’n cael ei gydnabod mai ysgolion prif ffrwd sy’n darparu’r amgylchedd dysgu mwyaf priodol i’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae rhai pobl ifanc wedi methu cyfnodau sylweddol o addysg drwy naill ai salwch, pryder a materion iechyd meddwl neu ymddygiad heriol sydd wedi arwain at eithriad o’r ysgol.

Yng Ngorwelion Newydd, rydym yn darparu dechrau newydd i’r holl bobl ifanc beth bynnag yw ei phrofiadau blaenorol. Rydym yn rhoi ystyriaeth sylweddol i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol ymhlith staff, pobl ifanc a’u teuluoedd. Credwn y bydd dull tîm a phartneriaeth gwirioneddol yn manteisio’n llawn ar botensial pob person ifanc.

Rydym yn cynnig cyfle i’r holl bobl ifanc ar ein cofrestr i gael mynediad at ddarpariaeth addysg symbylol ac effeithlon a fydd yn hyrwyddo personoliaeth, talentau a galluoedd yr holl bobl ifanc i’r eithaf. Mae ein dull wedi’i deilwra yn cwrdd ag anghenion unigol pobl ifanc sy’n datblygu cyfleoedd ar gyfer addysgu y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth, a drwy lwybrau dysgu academaidd, galwedigaethol a phwrpasol. Rydym yn darparu amgylchedd diogel sy’n cefnogi datblygiad iechyd a lles pobl ifanc. Rydym yn hyrwyddo pwysigrwydd a gwerth diwylliant Cymru a’r Gymraeg.

Rydym yn sefydlu dyhead uchel ar gyfer y bobl ifanc ar ein cofrestr i gofleidio’r cyfleoedd a gynigir iddynt er mwyn iddynt gyflawni eu potensial fel unigolion ac aelodau o grwpiau a chymunedau wedi’u grymuso, gan felly wella eu cyfleoedd bywyd.

Rydym yn gwobrwyo ac yn dathlu llwyddiant ein pobl ifanc ar rôl Gorwelion Newydd. Rydym yn cydnabod fod camau bychan llwyddiannus yn gyflawniad sylweddol i rai bobl ifanc. Byddwn yn cefnogi pobl ifanc i wneud newidiadau sylweddol yn eu bywydau a’u hannog nhw i ennyn gwybodaeth, dealltwriaeth, agweddau a gwerthoedd positif a gwneud defnydd adeiladol o’u sgiliau, adnoddau a’u hamser.

Yn benodol, rydym yn cefnogi, hyrwyddo ac yn dathlu llwyddiant pobl ifanc sy’n cyflawni canlyniadau achrededig ar Gyfnod Allweddol 4 a throsglwyddo’n llwyddiannus i addysg bellach ôl-16, cyflogaeth neu hyfforddiant. Ar Gyfnod Allweddol 3, rydym yn benodol yn cefnogi, hyrwyddo ac yn dathlu dychweliad llwyddiannus i ysgolion prif ffrwd neu ysgolion arbennig.