Bydd yr holl ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 yn dilyn cwricwlwm eang a chytbwys, a fydd yn adlewyrchu pedwar diben Cwricwlwm i Gymru 2022. Nod Gorwelion Newydd yw cefnogi ein plant a’n pobl ifanc i fod yn:
- Ddysgwyr uchelgeisiol a medrus
- Cyfranwyr llawn menter, creadigol
- Dinasyddion gwybodus moesol
- Unigolion iach a hyderus
Bydd y cwricwlwm hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu tair sgil orfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.
Bydd cwricwlwm Cyfnod Allweddol 3 yn cael ei drefnu o 2021 i dry cylched blynyddol ac yn cael eu darparu’n gyffredinol drwy ddull thematig misol, ar sail testunau. Bydd pob testun yn mapio cydrannau o’r meysydd dysgu a phrofiad yn glir.
Y chwe Maes Dysgu a Phrofiad:
- Celfyddydau Mynegiannol
- Iechyd a lles
- Y Dyniaethau
- Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Bydd pob testun yn darparu cyfleoedd priodol i ddatblygu gydag un cyfle asesu fesul testun. Bydd y pwyslais ar greadigrwydd sy’n cefnogi arloesi mewn cwricwlwm cyffrous a deinamig. Ymgynghorwyd â phlant a phobl ifanc ar ein dyluniad cwricwlwm thematig. Cydlynir ymgysylltiad â’n darparwyr Addysg Heblaw yn yr Ysgol gyda sicrwydd ansawdd er mwyn gwella’r profiad dysgu ym mhob maes.
Testunau cylchol
2020 – 2021
Cylched A
Dyluniad thematig o’r cwricwlwm i’w gwblhau.
2021 – 2022
Cylched B
Dyluniad thematig o’r cwricwlwm i’w gwblhau.
2022 – 2023
Cylched C
Dyluniad thematig o’r cwricwlwm i’w gwblhau.