Yng Ngorwelion Newydd rydym yn gweithio ar y cyd â gwasanaethau cynnal yr awdurdod lleol o fewn yr Adran Addysg ac Ymyrraeth Gynnar.

Mae’r adran hon yn atebol i gefnogi ysgolion a lleoliadau i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer yr holl ddisgyblion.

Gan y gallai fod gan ein pobl ifanc Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi eu canfod neu heb eu canfod, rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â’r Swyddogion Cynhwysiant a Seicolegwyr Addysg.

Yn aml mae angen i’r gwasanaeth arloesi yn y modd y mae’n ymgysylltu gyda phobl ifanc ac mae’n ddibynnol ar weithio effeithiol gyda phartneriaid fel In2change, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Chyfranogiad; i sicrhau fod pobl ifanc yn derbyn y gefnogaeth a’r cyfleoedd gorau posibl.

Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y dolenni cyswllt canlynol:

https://www.wrecsam.gov.uk/service/rhagor-o-wybodaeth-am-addysg/cefnogi-disgyblion-ag-anghenion-addysgol-arbenniganghenion

Yn ogystal â hyn, gallwn gael mynediad at gefnogaeth ehangach gan yr awdurdod a chefnogaeth gan asiantaeth allanol gan dimau fel y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc; Gofal Cymdeithasol; Rhianta Corfforaethol; y Nyrs Ysgol a Sefydliadau Trydydd Sector