Yng Ngorwelion Newydd rydym yn credu fod pedwar o’n pobl ifanc yn cael y budd gorau o’u haddysg, ei bod yn hanfodol iddynt fynychu’n rheolaidd. Dylai ein pobl ifanc fod yn barod am eu casgliad tacsi, oni bai fod rheswm dros absenoldeb nad oes modd ei osgoi o gwbl. Mae’n bwysig iawn fod rhieni a gofalwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb i sicrhau fod eu plentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac ar amser.
Mae’n werth nodi
- Presenoldeb 90% = methu ½ diwrnod yr wythnos
- Presenoldeb 90% = methu 4 wythnos y flwyddyn
- Presenoldeb 90% = methu ½ blwyddyn ysgol bob 5 mlynedd.
Am bob 17 diwrnod a gollir y flwyddyn, gallai hyn olygu fod eich plentyn yn cyflawni gradd yn is ar ddiwedd y flwyddyn.
Cyfrifoldeb Rhiant / Gofalwr
Beth allwch chi ei wneud os oes problem gyda phresenoldeb eich plentyn.
Siaradwch yn bwyllog â’ch plentyn a gwrando ar yr esboniad. Cysylltwch â’r Rheolwr Bugeiliol i ymdrin â’r rheswm dros eu habsenoldeb.
Mae lles eich plentyn yn bwysig i ni. Gallwn eich helpu i ddatrys unrhyw faterion a gallwn gynnig cefnogaeth i chi a’ch plentyn. Nid ydych chi ar eich pen eich hun.
Beth gallwn ni ei wneud os oes problem gyda phresenoldeb eich plentyn.
Mae copi o Bolisi Presenoldeb Gorwelion Newydd ar gael dan yr adran ‘Polisïau’.
Caiff rhieni a gofalwyr eu hatgoffa bod cyfrifoldeb cyfreithiol arnynt i sicrhau fod eu plentyn yn mynychu’r ysgol.