Fel rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae eich preifatrwydd yn hanfodol bwysig i ni; mae’r egwyddorion a ganlyn yn sail i’n dull i barchu eich preifatrwydd ac yn unol â rhwymedigaeth statudol yr awdurdod lleol:

  • Rydym yn gwerthfawrogi’r ymddiriedaeth rydych yn ei dangos tuag atom drwy roi eich gwybodaeth bersonol chi a gwybodaeth bersonol eich plentyn i ni. Byddwn bob amser yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol mewn ffordd sy’n deg ac yn deilwng o’r ymddiriedaeth honno,
  • Byddwn yn darparu gwybodaeth glir ynglŷn â’r ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
  • Byddwn bob amser yn agored gyda chi am yr wybodaeth rydym yn ei chasglu, yr hyn y byddwn yn gwneud â’r wybodaeth, gyda phwy rydym yn ei rhannu a phwy y dylech gysylltu â nhw os oes gennych unrhyw bryderon.
  • Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu eich gwybodaeth rhag camddefnydd a’i chadw’n ddiogel.
  • Byddwn yn cydymffurfio â’r holl gyfreithiau a rheoliadau diogelu data lle bo hynny’n berthnasol a byddwn yn cydweithredu ag awdurdodau diogelu data.