Yn ogystal â’n polisi Diogelu, amgaeaf wybodaeth ategol i’n cynorthwyo ni yng Ngorwelion Newydd.

Gwybodaeth Ddiogelwch i Ymwelwyr

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich ymweliad ac y bydd yn llawn gwybodaeth ac yn ddiogel. Helpwch ni drwy ddarllen a chydymffurfio gyda’r canllawiau sydd wedi eu cynnwys ar y wefan hon, sydd wedi’i bwriadu i sicrhau eich iechyd a diogelwch yng Ngorwelion Newydd.

Diogelwch

Rhaid i bob ymwelydd, staff cyflenwi a chontractwyr sy’n dod i mewn i Gorwelion Newydd lofnodi eu bod wedi cyrraedd wrth y Fynedfa.

Os ydych chi’n gweithio heb oruchwyliaeth gyda myfyrwyr, gofynnir i chi ddarparu eich tystysgrif DBS neu fanylion ohoni, ynghyd â phrawf adnabod. Heb hyn, mae’n bosibl na fydd mynediad yn cael ei roi i chi.

Ffonau Symudol a Ffotograffau

Caniateir ffonau symudol ar y safle, fodd bynnag, gallai defnydd amhriodol olygu y bydd gofyn i bobl ifanc roi eu ffonau i mewn yn y dderbynfa.

Gall Ymwelwyr ddod â ffonau symudol ar y safle ond ni chaniateir iddynt gymryd ffotograffau o’r adeilad, y staff na’r bobl ifanc.

Tân a Gwagio’r Adeilad

Bydd nifer o staff yn egluro beth i’w wneud os bydd argyfyngau a larymau tân.

Cloch barhaus yw’r larwm. Rhaid i chi adael yr adeilad drwy’r allanfa dân agosaf a mynd i’r man ymgynnull.

Yn y man ymgynnull, gwnewch yn siŵr y cofnodir eich bod yn bresennol.

Peidiwch â chymryd unrhyw risgiau personol.

Ni ddylech fynd yn ôl i mewn i’r adeilad nes y dywedir ei bod yn ddiogel i chi wneud hynny.

Gweithdrefn Cloi’r Adeilad

Mae gan yr ysgol weithdrefn gloi’r adeilad sydd ond yn cael ei defnyddio mewn argyfyngau. Mae hyn ond yn digwydd lle mae bygythiad uniongyrchol i ddiogelwch staff a myfyrwyr.

Dilynwch ganllawiau staff os oes sefyllfa’n codi lle mae’n rhaid cloi’r adeilad ac aros am gyfarwyddiadau pellach gan Gorwelion Newydd.

Cymorth Cyntaf

Os oes angen cymorth cyntaf arnoch chi neu nad ydych chi’n teimlo’n iach, ewch i Dderbynfa Gorwelion Newydd lle gall swyddog cymorth cyntaf cymwys eich gweld chi. 

Contractwyr

Rhaid i gontractwyr sicrhau eu bod yn dilyn canllawiau iechyd a diogelwch a allai fod yn berthnasol. Drwy wneud hynny, byddwch yn ein cynorthwyo i gwrdd â gofynion Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.

Smygu ac e-Sigarennau

Mae Gorwelion Newydd yn gweithredu polisi dim smygu ar gyfer ymwelwyr, staff a phobl ifanc.  

Rydym yn gweithredu proses glir os yw pobl ifanc yn dod â chyfarpar yn ymwneud â smygu neu’n cael eu gweld yn smygu gan un o’r staff.

Peidiwch ag ysmygu sigarét nac e-sigarét yn unrhyw le ar y safle nac o fewn radiws o 20m gan gyd-fynd â’n cyfarwyddeb gorfforaethol.

Maes Parcio

Caiff pob cerbyd a’u cynnwys eu gadael yn ôl menter y perchennog.