Meysydd Datblygu

Er mwyn gwella ymhellach, mae angen i’r Uned Cyfeirio Disgyblion:

D1 Datblygu a chynllunio cynnig Cwricwlwm i Gymru trawsnewidiol i’w weithredu’n llawn yn CA3 erbyn mis Medi 2022.

D2 Gweithredu a mewnosod y rhaglen drawsnewidiol ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) ar draws y gwasanaeth cyfan trwy ddefnyddio dull gwasgarog a fesul cam.

D3 Mewnosod dull Ymwybyddiaeth o Drawma, Trawma Cynhwysol a Thrawma Ymatebol  i gefnogi ymgysylltiad addysgol ar draws y gwasanaeth cyfan.

D4 Datblygu darpariaeth ‘ysgol arhosiad byr’/ Uned Cyfeirio Disgyblion dad-ddwysau llwyddiannus yn Stiwdio Hafod ar gyfer disgyblion CA3 sydd ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol.

D5 Datblygu a mewnosod dull ‘Ymddygiad ar gyfer Dysgu’ cadarn a chyson ar gyfer darpariaeth Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn Stiwdio Pen-y-Cae.