Yng Ngorwelion Newydd, rydym yn credu yn ein pobl ifanc a’u bod yn gallu cael mynediad at gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosesau penderfynu sy’n effeithio arnynt ac yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae dolen isod i Strategaeth Gyfranogiad CBSW a’r ymrwymiad i bobl ifanc yn Wrecsam.
Cefnogir llais y myfyrwyr a chaiff ei ystyried mewn amryw o wahanol ffyrdd ar draws pob safle; ar ffurf cyfweliadau Penaethiaid; holiaduron pobl ifanc, cyfarfodydd cyngor ysgol a blychau awgrymiadau.
Rydym yn mynd ati i annog ein pobl ifanc i ddweud eu dweud ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Enghraifft o hyn oedd y cyfle i ddau o’n myfyrwyr fod yn bresennol mewn cynhadledd amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor a ohiriwyd oherwydd COVID19.