Yng Ngorwelion Newydd mae gennym tri Reolwr Bugeiliol penodol sydd ar gael i gefnogi pobl ifanc gyda’u lles cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl.
Dyma rai o nodweddion allweddol y swydd:
- Arwain y broses dderbyniadau.
- Bod yn gyswllt cyntaf ar gyfer disgyblion, rhieni a gofalwyr Gorwelion Newydd, o safbwynt materion teulu a phersonol, gan ddarparu cefnogaeth ac arweiniad cyfrinachol.
- Cydlynu ar gyfer Cynlluniau Cefnogaeth Fugeiliol.
- Cysylltu a chydweithredu gydag asiantaethau allanol i sicrhau fod pobl ifanc yn cael mynediad ac yn ymgysylltu â phecyn cymorth aml-asiantaeth.
- Monitro camau lefelau presenoldeb i sicrhau fod disgwyliadau gwasanaeth yn cadw at y targed.