Mae Gorwelion Newydd yn deall pwysigrwydd darparu bwyd iach a maethlon i fyfyrwyr sy’n gwella lefelau canolbwyntio a chyflawniad ac yn cynnig brecwast iach am ddim i bobl ifanc.  Ariennir hyn drwy’r Grant Amddifadedd Disgyblion.

Darperir cinio gan ysgolion prif ffrwd lleol a’u dosbarthu i’r safle. Codir tâl bychan am ginio i’r bobl ifanc hynny nad oes hawl ganddynt i Brydau Ysgol Am Ddim.

Gall myfyrwyr hawlio Prydau Ysgol Am Ddim (PYD) os yw eu rheini neu warcheidwaid yn derbyn un o’r budd-daliadau a ganlyn:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm (Yn Ymwneud ag Incwm).
  • Cefnogaeth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.
  • Credyd Treth Plant – darperir os nad oes hawl gennych i Gredyd Treth Gwaith a bod ganddynt incwm gros blynyddol o ddim mwy na £16,190*
  • Parhad i Gredyd Treth Gwaith – telir am 4 wythnos ar ôl i chi beidio â bod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith.
  • Credyd Cynhwysol – os ydych chi’n gwneud cais ar neu ar ôl mis Ebrill 2018, rhaid i incwm eich aelwyd fod yn llai na £7,400* y flwyddyn (ar ôl treth a heb gynnwys unrhyw fudd-daliadau rydych chi’n eu cael) 

*Darperir y trothwy hwn gan yr Adran Addysg a gallai newid.

Os ydych chi’n teimlo y gallech chi fod yn gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim, gallwch gysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a gofyn i ffurflen gais gael ei hanfon atoch chi neu wneud cais ar-lein drwy www.wrecsam.gov.uk