Mae ein moto, ‘Cyfle, Dyhead a Llwyddiant’ yn golygu yr ystyrir fod dysgu yn bartneriaeth rhwng pobl ifanc, saff a rhenni. Ein nod yw creu amgylchedd sy’n seiliedig ar annog pobl ifanc i ymgysylltu â’r cyfleoedd a ddarperir iddynt ac anelu at lwyddiant o ganlyniad i ddarparu addysgu a dysgu o safon uchel ar draws Gorwelion Newydd.
Cynlluniwyd y cwricwlwm yng Ngorwelion Newydd i ymgysylltu a bod yn gyffrous a heriol. Rydym eisiau i bob un o’n pobl ifanc fod yn gwbl barod ar gyfer eu dyfodol drwy ddarparu ystod o gyfleoedd iddynt a datblygu eu cymeriad a fydd yn eu cefnogi i bontio yn ôl i’r ysgol neu i addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Yng Ngorwelion Newydd, mae ein saff yn gweithio’n galed fel bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu herio a’u cefnogi i wneud cynnydd parhaus a sylweddol ym mhob agwedd ar eu dysgu. Cyflawnir hyn drwy:

Disgwyliadau Uchel Cyson

Y disgwyliadau uchel y mae ‘Cyfleoedd, Dyheadau, Llwyddiannau’ Gorwelion Newydd yn sail iddo yn cymell gwersi sy’n cael eu cynnal mewn amgylchedd gwaith positif sy’n ffafriol i addysgu a dysgu o ansawdd uchel.

Ymestyn a Herio

Mae pob gwers yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu a thasgau i sicrhau fod pobl ifanc yn cael eu hymgysylltu a’u herio bob amser. Mae athrawon yn defnyddio amryw o strategaethau sy’n cynnig y cyfle i drosglwyddo, atgyfnerthu ac ymestyn gwybodaeth a sgiliau’r bobl ifanc maent yn eu dysgu.

Adborth o Ansawdd Uchel

Fel gwasanaeth ein nod yw meithrin ymagwedd gyson tag at yr adborth a dderbynnir gan bobl ifanc; adborth o ansawdd uchel, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn cyflwyno camau nesaf clir i bobl ifanc ar yr hyn mae angen iddynt ei wneud i wella a datblygu ansawdd eu gwaith.

Codi Dyheadau

Mae Gorwelion Newydd yn meithrin doniau pob person ifanc ac yn cydnabod fod rhai yn arbennig o dalentog mewn maes penodol, fel chwaraeon neu gerddoriaeth.  Mae ein rhaglen iechyd a lles yn gydran allweddol o’n cwricwlwm ac yn cynnwys gweithgareddau tu allan i amgylchedd yr ystafell ddosbarth arferol, sy’n galluogi ein pobl ifanc i ehangu eu profiad a datblygu sgiliau bywyd penodol.